Cartrefi Cymru

Contents:
Author: Owen Morgan Edwards

Dolwar Fechan.

Yr wyf yn eistedd mewn ystafell hirgul, gyda nenfwd isel, a ffenestri yn edrych allan i dri chyfeiriad, yn unig westy
Llanfihangel yng Ngwynfa. Dyma brif ystafell y pentre,—yn hon yr ymgyferfydd pob pwyllgor gwledig, yn hon y bydd cinio rhent Syr
Watcyn, yn hon yr ymgyferfydd y clwb, yn hon y traethwyd doethineb cenhedlaethau o ffermwyr ar adeg priodas a chynhebrwng. Ond heddyw y mae’n ddigon gwag, nid oes ynddi ond y ddwy res hir o gadeiriau, y ddau hen fwrdd derw, a minne deithiwr blin yn ceisio dadluddedu ac ymlonni trwy yfed trwyth rhinweddol dail yr Ind. Trwy’r drws agored gwelaf goesau meinion yr hen glochydd sy’n hepian wrth bentan y gegin, a thrwy’r tair ffenestr gwelaf y gwlaw yn ymdywallt i lawr trwy’r coedydd tewfrig deiliog, trwy’r onnen a’r fasarnen, ac hyd gadwyni aur banadlen Ffrainc. Y mae cerbyd gwlad yn fy nisgwyl, ond ni wiw cychwyn trwy wlaw taranau mor drwm,—er byfryted ydyw ar ol poethder llethol un o ddyddiau olaf Mehefin. A thra bo’r gwlaw taranau’n peidio, a’r coed yn gorffen dyferu, mi ysgrifennaf hanes digyffro taith y dydd.

Yn weddol fore cychwynnais o Lanfyllin i weled gwlad Ann Griffiths,-
-ei bedd, a’i chartref, os medrwn. Nid oedd y ffordd yn rhwydd i’w cherdded ar ol y gwlaw, a phan ofynnais i hen fforddolyn tal ai honno oedd ffordd Llanwddyn, atebodd yn awgrymiadol mai dyna ei dechre hi. Ond yr oedd perarogl y gwrychoedd a’r caeau, a’r lliwiau tyner, yn gwneyd iawn am drymder y ffordd. Wedi cerdded tua thair milldir dywedodd bachgennyn arafaidd wrthyf fy mod yn Llawr y Cwm,
lle gwelwn gapel Methodist bychan yn ymnythu rhwng torlan ac afonig.
Cyn i mi fyned nepell ymlaen, cyfarwyddodd torrwr cerrig fi i ffordd gul oedd yn gadael y ffordd fawr, ac yn dirwyn i fyny hyd ochr y bryn. Toc cyrhaeddais ben y tir, a gwelwn droliau gwaith dwr
Llanwddyn yn ymlusgo i fyny’r dyffryn hyd ffordd y gwaelod. Wedi gadael cysgod coed, dois i gaeau agored, ar ben y gefnen, a gwelwn hen wr rhyngof a’r goleu, yn sefyll, ac fel pe’n disgwyl. Yr oedd yn disgwyl ei fab adre o Loegr, ond buan y trechwyd ei siomedigaeth gan gywreinrwydd. Nid rhyw lawer o son sydd am Ann Griffiths ar orarau Maldwyn yn awr, ebe’r hen ffarmwr, ac nid rhyw lawer o ganu sydd ar ei hemynnau, dim hanner cymaint a chynt. Wrth i ni ymgomio yr oedd llwyni o goed ar fryncyn o’n blaenau, a gwelwn oddiwrth eu duwch fod ywen ymysg y coed. "Dacw Lanfihangel," ebe’r hen wr, "a dacw fur y fynwent lle mae’r hen Ann wedi ei chladdu." Cerddais o amgylch y fynwent i ganol y pentref. Y mae ar fryn gweddol serth,
a’r eglwys a’r fynwent yn uchaf man. O ddrws y fynwent rhed y ffordd i lawr rhwng ychydig o dai, siop pob peth, ty tafarn, ysgol waddolwyd gan un o Fychaniaid Llwydiarth, a choed ddigon. Eis i mewn i’r fynwent, sychodd pladurwr oedd yn torri gwair y beddau ei chwys, a dywedodd,—"Ie, dacw gof-golofn yr hen Ann. Peth digon rhyfedd fod y bobl yn ei galw’n hen Ann, a hithe wedi marw’n saith ar hugain oed." Cyn i mi gael hamdden i sylwi ar y fynwent, gwelwn lu o blant yr ysgol, plant iach a llawn bywyd, yn prysuro i edrych ar y dyn dieithr. Byddaf yn hoff iawn o blant gwlad,—nid ydynt yn hyfion ac yn dafotrwg fel plant tref,—a bum yn holi plant
Llanfihangel yng Ngwynfa am hoff ddaearyddiaeth Cymru. Yr oeddynt yn ddeallus, a gwelwn yn eglur fod eu hathraw yn medru Cymraeg ac yn meithrin eu meddyliau. Pan oedd arnaf eisieu cael y fynwent drachefn heb neb ynddi ond myfi a’r meirw, gofynnais faint oedd pris plant yn y pentref,—plant tewion graenus fel hwy,—a chyda fod y cwestiwn dros fy ngwefusau, yr oedd eu cefnau oll tuag ataf, a llu o draed bychain yn cyflymu i lawr y llwybr hir sydd rhwng porth yr eglwys a drws y fynwent. A gadawyd fi’n unig ymysg y beddau.

Safle caer yw safle mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa,—saif ar fryncyn, nid yr uchaf yn y gymydogaeth, ond un o’r rhai uchaf. O’r porth sy’n wynebu ar y pentref rhed llwybr hir rhwng mangoed at ddrws yr eglwys,—adeilad newydd. Wedi cyrraedd hanner y llwybr, os edrych y teithiwr ar ei aswy, gwel gofgolofn o wenithfaen,—nid un fwy na cholofnau ar filoedd o feddau dinod ym mynwentydd Cymru, ac arni’r geiriau, -

ER COF
AM
ANN GRIFFITHS,
DOLWAR FECHAN,
GANWYD 1776.
BU FARW 1806.

Nid oes Gymro fedr sefyll ger bedd Ann Griffiths heb deimlo ei fod ar ddaear sancteiddiaf ei fynyddoedd. Ac mor dawel ydyw’r fynwent!
Ni chlywir swn ond su’r bladur wrth nofio trwy’r glaswellt draw,—y mae pob aderyn yn ddistaw ar y bore hafaidd heulog, ni chlywir swn y plant sydd yn yr ysgol lwyd gerllaw, prin y medrir clustfeinio digon i glywed dwndwr yr aber sydd yn isel odditanodd yn y dyffryn.
Gorwedd y wlad fel breuddwyd angel oddiamgylch,—yn dawel, dan ei blodau, ac yng ngoleuni disglaer haul. Rhwng y coed sydd gydag ymyl y fynwent, gwelwn ddyffrynnoedd a choedydd, a’r mynyddoedd sy’n gwahanu Maldwyn a Meirionnydd. Ac arnynt i gyd gorweddai tangnefedd canol haf. Ac i rai sy’n huno ym mynwent ael y bryn y mae tangnefedd mwy. Wedi ieuenctid nwyfus, wedi pryder priodi a dechreu byw a geni, wedi tymhestloedd ac ofnau, wedi cyfarfod Angau ymhell cyn i hwyrnos bywyd guddio hagrwydd ei wedd, wedi hyn oll, -

O ddedwydd ddydd, tragwyddol orffwys
Oddi wrth fy llafur, yn fy rhan,
Yng nghanol mor o ryfeddodau,
Heb waelod, terfyn byth, na glan:
Mynediad helaeth mwy i bara
O fewn trigfannau Tri yn Un.
Dwfr i nofio heb fynd trwyddo,
Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.

Byw heb wres, na haul yn taro,
Byw heb ofni marw mwy;
Pob rhyw alar wedi darfod,
Dim ond canu am farwol glwy’;
Nofio yn afon bur y bywyd,
Bythol heddwch sanctaidd Dri,
Dan dywyniadau digymylau
Gwerthfawr angau Calfari.

Yn yr unig lythyr o’i heiddo sydd ar gael, llythyr ysgrifennodd wedi priodi, a phan oedd ei bywyd byr ymron ar ben, dywed, -

"ANWYL CHWAER,—’Rwif yn gweled mwy o angen nac erioed am gael treilio y rhan su yn ol dan rhoi fy hyn yn feunyddiol ac yn barhaus,
gorph ac enaid, i ofal yr hwn su yn abal i gadw yr hyn roddir ato erbyn y dydd hwnnw. Nid rhoi fy hun unwaith, ond byw dan roi fy hun, hyd nes ac wrth roi yr tabarnacle hwn heibio. Anwyl chwaer,
mae meddwl am i roi o heibio yn felus neillduol weithiau,—nid marw ynddo ei hun, ond yr elw mawr sudd yw gael trwyddo."

Syrthiodd cysgodion tragwyddoldeb ar ei henaid pan nad oedd eto ond ieuanc iawn; daeth y mynyddoedd tywyll i’r golwg pan oedd yn teithio rhan rosynaidd heulog ei llwybr, a’i hysbryd yn ysgafn a’i ffurfafen heb gwmwl; y mae nwyf a melusder ieuenctid yn ei chan, a mawredd tragwyddoldeb hefyd. Am bob un o’i hemynnau gellir dweyd y geiriau sydd ar ddiwedd ei llythyr, -

"Hyn oddiwrth eich chwaer yn cyflum deithio trwy fyd o amser i’r byd mawr a bery byth."

Ac wedi ofni grym pechod, wedi "cario corff o lygredd," wedi
"wynebu’r afon donnog," aeth heibio i’r byd mawr a bery byth.

O’r fynwent trois tua chartref Ann Griffiths. I’m cwestiwn parthed hyd y ffordd cawn amrywiol atebion,—pedair milldir a hanner ebai un, tair milldir ebai un arall, a sicrhai y trydydd fi mai dwy filldir a hanner union oedd i Ddolwar Fach. Cerddais i lawr y bryn,
croesais afonig red dan goed cysgodfawr, a dringais ochr bryn sydd ar gyfer y pentref. Cefais fy hun ar ffordd fryniog, weithiau’n dringo bryn ac yn disgyn yn ebrwydd wedyn, gan syllu ar addfedrwydd cyfoethog y wlad, a’r haul yn gwenu drwy gymylau ar y gwlith, -

"Gwlad dda, heb wae, gwlad wedi ei rhol dan sel,
Llifeirio mae ei ffrwyth o laeth a mel;
Grawn sypiau gwiw i’r anial dir sy’n dod,
Gwlad nefol yw, uwch law mynegi ei chlod."

Toc dois at groesffordd ar waelod cwm; trois ar y dde hyd ffordd a’m denai i’w chysgodion. Ar y naill law yr oedd craig, weithiau’n noeth, weithiau’n dwyn baich o goed a blodau; ar yr ochr arall yr oedd caeau gwyrddion serth. Rhedai afonig yn dryloew, dan furmur yn ddedwydd. Uwch ei phen ymblygai bedw a chyll; estynnai y goesgoch ei phen dros y lan, i weld ei llun mewn llyn tawel; aml lecyn gwyrdd welais ar fin y dwr, llawn o lysiau’r neidr a llafrwyn a’r olcheuraid, gyda chwys Mair a’r feidiog las dipyn ymhellach oddi wrth y dwr, a rhedyn tal yn edrych ar eu prydferthwch oddiar ochr y bryn. Canai miloedd o adar,—ni wiw i mi ddechre enwi’r cor,—
oddigerth pan ddistawent tra canai’r gog, yr hon oedd heb weld gwair wedi ei dorri yn unlle. Sylwn yn fanwl ar bopeth, oherwydd gwyddwn fod Ann Griffiths wedi cerdded y llwybr hwn filoedd o weithiau;
gwyddwn mai wrth syllu ar ryw afonig neu fynydd y byddai’n dechreu canu, ac yna ehedai ei meddwl ymhellach bellach oddiwrthynt at bethau byd a bery byth. Pwy a wyr nad yn swn yr afon hon y canwyd gyntaf, -

"Ffrydiau tawel, byw rhedegog,
O dan riniog ty fy Nuw,
Sydd yn llanw, ac yn llifo
O fendithion o bob rhyw;
Dyfroedd gloew fel y grisial,
I olchi’r euog, nerthu’r gwan,
Ac a ganna’r Ethiop duaf
Fel yr eira yn y man."

Ac ym miwsig yr afon, gyda’i nodau llon a lleddf, dychmygwn glywed geneth yn canu o lawenydd ei chalon, -

"Byw i weld yr Anweledig,
Fu farw ac sydd eto’n fyw;
Bythol, anwahanol undeb,
A chymdeithas a fy Nuw."

Yn nes ymlaen y mae’r afon, fel merch ieuanc yn wynebu treialon byd,
yn disgyn i lawr glynnoedd dyfnach,—weithiau yn y dyrysleoedd, fel pe mewn anobaith; weithiau’n llithro’n wyllt dros greigiau, fel pechadur afradlon ar ei yrfa; weithiau’n gorffwys mewn llyn tawel,
dan wenu ar yr haul neu lechu’n wgus dan goed. Ychydig y mae Ann
Griffiths wedi ganu am droion yr yrfa,—Williams Pant y Celyn a’u darlunia hwy o’u canol, a David Charles Caerfyrddin o fryniau
Caersalem,—yr oedd ei hiraeth cryf am Dduw yn gwneyd iddi hi anghofio blinder ac ofnau’r daith. Ni sonia hi am demtasiynau, ond er mwyn cael canu am goncwest; ni chan am flinder, ond er mwyn cael canu am yr Hwn a’i cysurai, -

"Digon mewn llifeiriant dyfroedd,
Digon yn y fflamau tan."

Toc gadawodd yr afonig a minne gwmni ein gilydd; aeth hi trwy gwm dwfn tua’r Fyrnwy, dechreuais inne ddringo bryn lled serth, a gwelwn
Ddolwar Fawr ar y llaw dde i mi, dipyn o’r ffordd. Yr oedd y cymylau erbyn hyn wedi clirio, yr oedd yr hin yn boeth orlethol, ac yr oedd tarw mewn cae cyfagos yn beichio dros y wlad ac yn dilyn ar fy ol. Daeth i’m meddwl bennill welais, wedi ei ysgrifennu gan Ann
Griffiths a’i llaw ei hun, -

"Er mai cwbl croes i natur
Yw fy llwybur yn y byd,
Ei deithio wnaf, a hynny’n dawel,
Yng ngwerthfawr wedd dy wyneb pryd;
Wrth godi’r groes, ei chyfri’n goron,
Mewn gorthrymderau llawen fyw,
Ffordd yn uniawn, er mor ddyrus,
I ddinas gyfaneddol yw."

Ni welwn o’m blaen ddim, cyfannedd nag anghyfannedd, ond y llwybr syth yn mynd i fynu’r bryn, a’r gwrychoedd o bobtu’n gwywo yng ngwres llethol yr haul poeth. Ond yn y man, wrth edrych ar hyd y llwybr, fel yr oeddwn yn dynesu at ben y rhiw, gwelwn fynyddoedd pell, fel breuddwyd gwr ieuanc, yn ymgodi’n brydferth a gwyrdd.
Cerddais hyd ffordd weddol wastad hyd nes y dois at lidiart y mynydd. Ar yr aswy yr oedd y mynydd rhydd braf, gydag eithin a danadl poethion a brigau’r twynau’n tyfu ar hyd-ddo, a bryniau
Maldwyn yn hanner cylch y tu hwnt iddo. Ar y dde gwelais lidiart, a banadlen Ffrainc, yn holl gyfoeth ei chadwyni aur o flodau, yn crogi uwch ei phen. Eis trwy’r llidiart hon, ac wedi cerdded ychydig funudau gwelwn Ddolwar Fechan o’m blaen. Nid oes dim yn hynafol nac yn rhyfedd yn y lle, gwelir ugeiniau o ffermdai tebyg rhwng bryniau hyfryd Maldwyn. Y mae’r ty’n newydd, a golwg lan a chysurus arno yng nghanol ei erddi blodau ar lethr y bryn. Ychydig yn nes i lawr,
ar waelod y dyffryn bychan, y mae’r adeiladau,—yr ysguboriau, y beudai, yr helm drol,—rhai ohonynt fel yr oeddynt pan oedd Ann
Griffiths yn dysgu cerdded gyda’u muriau. Yn nes i lawr y mae’r cadlesoedd, dan gysgod pinwydd, ac yna gweirgloddiau dan eu gwair.

Prysurais i lawr at yr adeiladau, gan groesi’r ffrwd sy’n rhedeg o’r ffynnon,—dyfroedd gloew fel y grisial welodd Ann Griffiths lawer blwyddyn cyn darllen hanes y dwfr yn tarddu dan yr allor yn seithfed bennod a deugain Eseciel. Oddiwrth yr adeiladau hyn, dringais i fyny at y ty, gan geisio dyfalu pa fath bobl oedd yno. Eis trwy lidiart yr ardd, a phan oeddwn yn edmygu’r blodau, daeth hen wraig hardd, a’i gwyneb yn wenau i gyd, i’m croesawu.

"Dyma Ddolwar Fach, ynte?"

"Ie, dowch i fewn o wres yr haul. Ydech chwi’n dwad o bell, gen mod i mor hyf a gofyn?"

"Mi gerddais o Lanfyllin; sawl milldir gerddais i?"

"Wyth. Y mae arnoch chwi eisio bwyd; dowch at y bwrdd i gymeryd tamed o ginio."

Ni fynnwn ginio, ond gofynnais a roddai hi i mi gwpanaid o ddwr oer.
Daeth a gwydriad o lefrith i mi, a’r hufen melyn yn felus arno.
Lawer gwaith wedyn, pan yn yfed llefrith a’i hanner yn ddwfr a’i hufen wedi ei hel yn ofalus oddiarno, bum y’n hiraethu am y glasiad llefrith a gefais yn Nolwar Fechan. Tra’r oeddym ni’n ysgwrsio,
clywem droediad ysgafn ar y llofft uwchben. Gwelodd y wraig fy mod yn dyfalu pwy oedd yno, a chododd ei llais i alw, -

"Ann!"

"Ann," ebe finne, "a ydyw teulu Ann Griffiths yn yr hen gartref o hyd?"

"O nag ydyw, ar ol ei theulu hi y daethom ni"

"A oes rhai o ddodrefn yr hen deulu wedi aros?"

"Nag oes ddim, ac nid wn i a oes rhai o’r hen deulu yn aros ychwaith."

Wedi i mi gael ysgwrs a’r wraig am amaethyddiaeth, ac a’r ferch am flodau’r ardd, daeth yr ysgolfeistr, yr hwn a letyai yno, i’r ty. Y
mae’n wr deallus, yn sylwedydd craff. Dywedai am ei anhawsder i ddysgu plant Cymreig, oherwydd Sais uniaith yw, a mawr ganmolai gyflymder meddwl plant y bryniau rhagor plant Saeson y gwastadeddau.
Ond ni chlywsai air erioed am Ann Griffiths; ac edrychai’n ddrwgdybus arnaf, fel pe bawn un heb arfer dweyd y gwir, pan ddywedais wrtho ei fod yn byw yn nhy emynyddes oreu’r byd.

Ni welais erioed liwiau mwy gogoneddus na lliwiau’r blodau y prydnawn hwnnw; yr oedd y rhosynau gwylltion, welwn rhyngof ag awyr
Mehefin ar bennau’r gwrychoedd, yn orlawn o oleuni; yr oedd goleuni’r haul yn brydferthach pan adlewyrchid ef o’u gwynder hwy na phan yr edrychid ar yr haul ei hun, fel pan yn

"Disgleirio mae gogoniant Trindod
Yn achubiaeth marwol ddyn."

Wedi’r ffordd hir hyfryd oedd cyrraedd mynwent Llanfihangel yng
Ngwynfa, a gadael y gwres anioddefol, a myned i mewn i’r eglwys dywell oer. Nid oes dim neillduol yn yr eglwys; ond tra yr oeddwn ynddi daeth cyfnewidiad dros y diwrnod,—yn sydyn duodd yr awyr,
ymrwygai taranau dychrynllyd trwyddi, fflachiai mellt nes y byddai’r eglwys dywell yn oleu a beddergryff teulu Llwydiarth yn ymddangos,
fel ysgrif gwledd Belsasar, yn amlwg ar ei mur. Doi rhyw ddarn emyn o waith Ann Griffiths i’m cof o hyd, -

"Pan fo Sinai i gyd yn mygu,
Sain yr udgorn uchaf radd,
Caf fynd i wledda dros y terfyn
Yng ngrym yr aberth, heb fy lladd."

Rhedais drwy’r gwlaw bras trysfawr i’r hen westy hwn, a dyma fi. Y
mae amryw fforddolion fel y finne wedi troi i mewn am nodded ar fy ol, ac mewn hwyl ysgwrsio a mi. Treiais dynnu ysgwrs am ysbrydion a rheibio, ond cynnil iawn oedd eu hatebion,—yr oeddwn yn rhy debyg i bregethwr. Yr oedd yno un dyn deallus a llais dwfn mwyn, ffarmwr o ardal Pontrobert; nid oedd gan y clochydd air ond ambell i amen yng nghanol ysgwrs y lleill; yr oedd yno was ffarm, wedi gorfod ymadael o’i le oherwydd yr "wimwimsa," fel y galwai yr influenza. Efe oedd y prif siaradwr yn ein mysg. Cwynai nad oedd ganddo unlle ar y ddaear las i droi iddo, ie, ei bod "wedi mynd yn draed moch ac yn botes llo" arno. Wrth weled cot ddu am danaf, dechreuodd siarad ar bwnc dybiai oedd yn gydweddol a’m chwaeth, sef Sian Hughes,
Pontrobert, glywais unwaith ar stryt y Bala, amser Sasiwn, yn pregethu yn erbyn y diafol a sol-ffa. "Mi fydde’n son am iffern, a pheth whithig o bethe, wrth fechgin ifinc," ebai’r gwas ffarm, yr hwn a ddychrynasid lawer o weithiau, mae’n debyg, gan bregethau’r hen wraig. Yr oedd y Sian Hughes honno, os nad wyf yn camgymeryd,
yn ferch i Ruth, morwyn Dolwar Fechan, ar gof yr hon y cadwyd emynnau Ann Griffiths.

Ond y mae’r cerbyd wrth y drws yn disgwyl, rhyw fath o drol ysgafn gwlad, ac ystyllen ar ei thraws. Y mae’r awyr yn goleuo, y mae’r gwlaw wedi troi’n wlithwlaw tyner, y mae’r aberoedd yn llawn at yr ymylon, y mae’r coed yn tyfu i’w gweled wedi’r gwlaw maethlon. Cyn hir bydd dau ar yr ystyllen groes, mewn trol glonciog, ar ffordd
Llanfyllin; a bydd un o honynt, o leiaf, yn meddwl am emyn, os nad yn ei ganu, -

"Gwna fi fel pren planedig o fy Nuw!
Yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw;
Yn gwreiddio ar led, a’i ddail heb wywo mwy,
Yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy."

Contents:

Related Resources

None available for this document.

Download Options


Title: Cartrefi Cymru

Select an option:

*Note: A download may not start for up to 60 seconds.

Email Options


Title: Cartrefi Cymru

Select an option:

Email addres:

*Note: It may take up to 60 seconds for for the email to be generated.

Chicago: Owen Morgan Edwards, "Dolwar Fechan.," Cartrefi Cymru in Cartrefi Cymru Original Sources, accessed March 28, 2024, http://www.originalsources.com/Document.aspx?DocID=7PFPMBGWZQVW2RV.

MLA: Edwards, Owen Morgan. "Dolwar Fechan." Cartrefi Cymru, in Cartrefi Cymru, Original Sources. 28 Mar. 2024. http://www.originalsources.com/Document.aspx?DocID=7PFPMBGWZQVW2RV.

Harvard: Edwards, OM, 'Dolwar Fechan.' in Cartrefi Cymru. cited in , Cartrefi Cymru. Original Sources, retrieved 28 March 2024, from http://www.originalsources.com/Document.aspx?DocID=7PFPMBGWZQVW2RV.