GLOGWYN ANWYL.
[O "Owain Wyn."]

"Glogwyn anwyl, hoff gan i
Yw hamdden am fynudyn,
Taflu carreg i fy nghi,
Neu eistedd ar dy gribyn:
Gwylio’r afon glir islaw,
A gollwng fy myfyrion
I’r terfysglyd drefydd draw,
Ym miwsig ei murmuron.

Bywyd Bugail—bywyd yw
Nas gwyr y byd am dano,
Heibio ’r bryniau wele ’r byw
Fel nant yn rhedeg heibio;
Golud, enw, bydol fri,
Yw eilun-dduwiau dynion;
Mwy na ’r oll i’m golwg i
Yw praidd y bryniau gwylltion.

Praidd y mynydd—O! fy mhraidd!
Mae pleser wrth eich gwylio,
Cyn i’r ser fachludo braidd,
A chyn i’r dwyrain ddyddio;
Pan gusano’r haul y lli’,
Y’m gyda chwi ein defaid;
Fel ein calon, felly chwi
Ym mynwes eich bugeiliaid.

Gyda phraidd y mynydd gwyllt,
Tynghedwyd ni a’n dyddiau;
Llwybrau defaid, wyn a myllt,
Yw ’r llwybrau deithiwn ninnau;
Weithiau tan y creigiau certh,
Yng nghanol y mynyddoedd,
Dim i’w weld ond bryniau serth,
A thyner lesni’r nefoedd;

Yna dringo pen y bryn,
Hyd risiau craig ddaneddog,
Gweld y nant, y cwm, a’r glyn,
Y ddol, y gors, a’r fawnog;
Edrych ar y ceunant du,
Fel bedd ar draws y bryniau;
Bedd, yn wir, medd hanes, fu
I lawer un o’n tadau.

Llawer craig fygythiol sydd
Yn gwgu ar ein bywyd;
Ond mae arnynt ddwylaw cudd,
Ac nid oes maen yn syflyd;
Clywir llais y dymhestl gref,
A chwiban y corwyntoedd,
Rhua croch daranau ’r nef,
Ond huno wna ’r mynyddoedd.

Fel yr hen fynyddoedd clyd
Y’m ninnau ym mysg dynion;
Ysed tan ddinasoedd byd,
A chwymped seddau ’r mawrion,
Llwybro gyda ’n defaid wnawn,
A thrin ein huchel diroedd;
Hun o bur dawelwch gawn
Ym mynwes y mynyddoedd.