|
Ceiriog
Contents:
III.
Os hoffech wybod sut Mae dyn fel fi yn byw, Mi ddysgais gan fy nhad Grefft gyntaf dynol ryw; Mi ddysgais wneyd y gors Yn weirglodd ffrwythlon ir, I godi daear las Ar wyneb anial dir. ’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, Ac yn codi efo’r wawr, I ddilyn yr og, ar ochr y Glog, A chanlyn yr arad goch Ar ben y mynydd mawr.
Cyn boddio ar eich byd, Pa grefftwyr bynnag foch, Chwi ddylech ddod am dro Rhwng cyrn yr arad goch; A pheidiwch meddwl fod Pob pleser a mwynhad Yn aros byth heb ddod I fryniau ucha’r wlad. ’Rwyn gorwedd efo’r hwyr, &c.
Yn ol eich clociau heirdd, Bob bore codwch chwi: Y wawr neu wyneb haul Yw ’r cloc a’n cyfyd ni; Y dyddiaduron sydd Yn nodi ’r haf i chwi; Ond dail y coed yw ’r llyfr Sy ’n dod a’r haf i ni. ’Rwyn gorwedd efo’r hwyr, &c.
Nis gwn i fawr am fyw Mewn rhwysg a gwychder byd; Ond diolch, gwn beth yw Gogoniant bwthyn clyd; Ac eistedd hanner awr Tan goeden ger fy nor, Pan aiff yr haul i lawr, Mewn cwmwl tan i’r mor. ’Rwyn gorwedd efo ’r hwyr, &c.
Cerddorion Ewrop ddont I’ch mysg i roddi can: ’R wyf innau ’n ymfoddhau Ar lais y fronfraith lan; Wrth wrando ’r gwcw las, A’r hedydd bychan fry, A gweled Robyn Goch Yn gwrando ’r deryn du. ’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c.
Ddinaswyr gwaelod gwlad, A gwyr y celfau cain, Pe welech Fai yn dod, A blodau ar y drain - Y rhosyn ar y gwrych, A’r lili ar y llyn; Fe hoffech chwithau fyw Mewn bwthyn ar y bryn. ’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c.
Pan rydd yr Ionawr oer Ei gaenen ar yr ardd, Y coed a dro’nt yn wyn Tan flodau barrug hardd; Daw bargod dan y to Fel rhes o berlau pur, A’r eira ddengys liw Yr eiddew ar y mur. ’Rwy’n gorwedd efo’r hwyr, &c.
Daw Ebrill yn ei dro, A chydag ef fe ddaw Disymwth wenau haul, A sydyn gawod wlaw; Fel cyfnewidiog ferch, Neu ddyn o deimlad gwan, Galara ’r awyr las, A gwena yn y fan. ’Rwy’n gorwedd efo ’r hwyr, Ac yn codi efo ’r wawr, I ddilyn yr og ar ochor y Glog A chanlyn yr arad goch Ar ben y mynydd mawr.
Contents:
Chicago:
Ceiriog Hughes, "III.," Ceiriog in Ceiriog Original Sources, accessed July 3, 2025, http://www.originalsources.com/Document.aspx?DocID=4VHPTCKWP1RUHE5.
MLA:
Hughes, Ceiriog. "III." Ceiriog, in Ceiriog, Original Sources. 3 Jul. 2025. http://www.originalsources.com/Document.aspx?DocID=4VHPTCKWP1RUHE5.
Harvard:
Hughes, C, 'III.' in Ceiriog. cited in , Ceiriog. Original Sources, retrieved 3 July 2025, from http://www.originalsources.com/Document.aspx?DocID=4VHPTCKWP1RUHE5.
|