The Works of Twm O’r Nant— Volume 2

Contents:
Author: Twm o'r Nant

(Alaw—"Spanish Haven.")

"Pob rhyw ddyfeisgar feddylgar ddyn,
A phob ystraeol wagffol un,
A wnelo hyn ohono ei hun,
I daenu gw[y^]n a gwenwyn;
A phan ddelo ar ffrwst ryw drwst i droi,
Gwneiff pawb esgusion am le i ’sgoi,
Ac felly’r anair a gaiff ei roi
Ar Rywun.

"Mae’n natur hon yn glynu’n rhwydd,
Pan bechodd Adda sertha swydd,
Rhodd yntau ar Efa, llesga llwydd,
Y bai a’r digwydd dygyn;
Ac ar y sarff y rhoddes hi,
A hyn yw’r nod o’n hanwir ni,
Hoff gennym fyth roi’r euog fry
Ar Rywun.

"Gan hynny gwelwn wraidd ein gwall,
Na byddir nes trwy ddyfes ddall.
Er taflu’r llwyth o’r naill i’r llall,
Mewn coegfall oerwall erwin;
Ni chafodd Adda un lle i ffoi,
Fe ddaeth y drwg heb hir ymdroi,
I’w ben ei hun er ceisio ei roi
Ar Rywun.

"Ac felly ninne, f’alle’n wir,
Drwy’r deyrnas hon ymhob rhyw sir,
Ansiriol siarad holiad hir,
A fftydir gan gyffredin;
Mae’r gair dew lid mewn gwir di lai
Fod ar benaethied amryw fai,
Fel hyn mae barn gan bob rhyw rai
Ar Rywun.

"Ond wedi’r cwbl drwbl drud,
O’r chwyrnu a’r barnu sy’n y byd,
Daw’r amser pan grynhoir ynghyd
Bob dirfawr fryd i derfyn;
Pan fo’r gydwybod flin yn cnoi,
’Cheiff esgus ffals un lle i ffoi,
Sait pawb i’w tam, ni wiw ei roi
Ar Rywun.

"Gan hynny holed pawb ei hun,
Mae barn, rhag barn, yn dda i bob un,
Cydwybod oleu, ei llwybre a’i llun,
Sydd oreu i ddyn ei ddilyn;
Gwae lwytho arno ei hun glai tew,
Ni all llewpart newid lliw ei flew,
Pan d’wyno’r haul fe dodda rhew
Dydd Rhywun."

Ni chana’i chwaneg, nosdawch heno,
Dyma gysgod y celwydd yn awr yn cilio,
Rhaid i bawb syfell dan ei faich ei hun,
Ni wiw am Rywun ruo.

[Ymddengys Arthur, yn glaf.

Arthur. Hai, how, heno, ’r cwmni eglur,
Dyma finne dan erthwch, yr hen Arthur,
Yn edrych am le i eistedd i lawr,
Gan ty ngwaew mawr a ’ngwewyr.

Fe’m trawodd rhyw glefyd chwerw,
Yr wy’n ofni y bydda’i marw,
Ow! bobl, bobl, ’does help yn y byd,
I’m tynnu o’r ergyd hwnnw?

’Rwy’n gweled o ben bwy gilydd,
Fy mhechod, a nod annedwydd,
Cydwybod sydd i mi’n traethu ’nawr,
Fy nghastie, mae’n fawr fy nghystudd.

Dacw’r defed a ddyges, mi wn tros ddeugen,
Yn rhedeg ’rhyd y llethr, a dacw’r pec a’r llathen,
Dacw’r [y^]d budr yng ngwaelod y sach,
Dacw’r pwyse bach aflawen.

Dacw’r llaeth tene, O! ’r felldith donnog,
Werthasom ganweth ddau chwart am geiniog;
A’r man-yd yn y brith-yd, sy’n brathu fy nghalon;
Mi wnes gam diawledig a phobl dlodion.

’Rwy’n gweled ar gyfer mewn gofid a chyffro,
Y gweithwyr a’m gweinidogion yn fy melldigo,
Mae’r ofn arna’i bydda’i ar ol mynd o’r byd,
Am bechod o hyd yn beichio.

Ow! oes yma neb a fedr weddio?
Na phregethwr, na doctor, yn hynod actio,
O! nid oes i’m hoedl i fawr o drust,
Ow! physic, ’rwy’i just a phasio.

[Ymddengys y Doctor.

Doctor. O dear heart, you are sick, ’rwy’n cweled!

Arth. O meistr anwyl, ni fu hi erioed cyn erwined!
’Rydwy’i bron marw’n ddigon siwr,
Coeliwch, mewn cyflwr caled!

Doct. Let’s feel your wrist, mae pyls chwi cweithio?

Arth. Oes rhywbeth yn ateb bydda’i fyw dipyn eto?

Doct. Yes, yes, I hope you’ll come o’r core.

Arth. Iechyd i’r galon, os ca’i fyw tan y gwylie.

Doct. Here’s drops for you i lonyddu’ch ysbrydoedd.

Arth. Os bydda’i marw fel ’nifel, ’da’i byth i’r nefoedd.

Doct. Don’t be afraid, mae Duw’n trugarog.

Arth. Ni waeth i chwi p’run, ’rwy’n ddiffeth gynddeiriog.

Doct. I’ll warrant you’n burion, mi ddof yma’r bore,
To bleed you and bring some more cyffirie,
Cym’rwch a cadwch ddeiet dda,
Yn ddiddychryn hyn yna i ddechre.
[Diflanna’r Doctor.

Arth. Wel, bendith eich mam i chwi, meistr anwyl,
Ond a ddaethum yn well nag oeddwn yn ddisgwyl;
Rhaid gyru at y person i ddwyn ar go’,
Am roi gweddi, os bydd eisio, ddywsul.

Os fi geiff hoedl eto’n weddedd,
Mi feddyliaf lawer am fy niwedd,
Ni choelia’i nad ymadawa’i ar frys,
A’m holl afiachus fuchedd.

Mi af i bob cymanfa, lle byddo rhai duwiola,
A rhof elusen i’r tlawd, heb eiriach blawd na bara;
O! hoedl, hoedl eto, i ddarllen a gweddio!
Ow’r amser gwerthfawr rois yn gas, heb geisio gras yn groeso!

Duwioldeb, Duwioldeb, wyneb anwyl!
Tyred i’m dysgu! yr wy’n disgwyl
Y gwnei di fy ’fforddi, mae f’ ewyllys yn bur,
’Nol dy archiad, i wneuthur dy orchwyl.

[Ymddengys Madam Duwioideb Crefydd.

Duwioldeb. Pwy sydd yma, caetha’ cwyn,
Yn galw ar dwyn am dana’?

Arth. Hen bechadur heb fod yn iach,
Sydd a’i galon bach yn gwla.

Duwi. Fel hyn bydd llawer hen bechadur,
Pan ddelo clwy’ neu ddolur,
Er iddynt son am grefydd sant,
Hwy ant eto wrth chwant eu natur.

Arth. O! Duwioldeb, ’da’i byth i ildio,
Mi ddof i dy ddilyn, pwy bynnag a ddelo;
Ac a wnaf bob rhyw beth a f’och di’n bur,
Drwy gysur, yn ei geisio.

Mi adawaf arian i’r tylodion,
’Rwy’n meddwl fod hynny’n weithred raslon;
Ac mi dderbynia’r pregethwyr gore i’r t[y^],
’Rwy’n bwrw fod hynny’n burion.

Ac mi wna’r peth a fynnir byth yn fwynedd,
Ym mhob rhyw gariad, os ca’i drugaredd;
Gweddied pawb gyda fi hyn o dro
Am iechyd i ymendio ’muchedd.

Duwi. Duw roes glefyd i’th rybuddio,
A barodd i’th gydwybod ddeffro;
Ac yn rhoddi it’ dduwiol ras,
Hoff addas i’th hyfforddio.

Arth. Iechyd i’th galon di, Grefydd dyner
’Rwy’n teimlo fy hun wedi gwella llawer.

Duwi. Deui eto’n iachach nag yr wyd,
Am hynny cwyd o’th gader.

Arth. Wel, dyma fi ar fy nhraed yn rhodio.
Y cwmni mwyndeg, ’rwy’n ame gwna’i mendio;
Ni welsoch chwi ’rioed un mor ddi-fai,
Yn ddi ddowt ag fydda’i eto.

Duwi. Gwylia’n odieth ar dy fynediad,
A chymer ofal mawr trwy brofiad;
Os dy ddwylo ar yr aradr a roi fel Paul,
Ni wiw i ti edrych ar dy ol.

Cofia Gain a’i aberth cyndyn
A gwraig Lot a ddarfu gychwyn;
Balam gynt a garodd wobre.
Pob un o’r rhai’n aeth dros y llwybre.

Cofia swydde Saul a Suddas,
Yn rhybudd cymer dymer Demas,
A chofia Agrippa, frenin oerddig,
A ddaeth yn Gristion o fewn ’chydig.

Arth. ’Does dim sy gryfach na duwiol grefydd,
Pe dysgit ti Gaenor, fy ngwraig i, ar gynnydd;
’Rwy’i er’s deugen mlynedd ’mynd i ’ngwely ’mlaena,
Ac ni ddywedodd hi weddi erioed, mi dynga.

Mae hi am fynd yn gyfoethog wrth ofalu a gweithio,
Ond ni ddysgodd hi ’rioed na phader na chredo;
Mae gen i fy hun, oni bydda’i’n ddig,
Ryw grap diawledig arno.

Mi fyddwn i erioed yn gweddio rhyw ’chydig,
Wrth fynd trwy ddwr neu ryw ffordd ddychrynedig,
Neu ar fellt a tharane y cofiwn i am Dduw,
Ond bellach byddaf byw’n o bwyllig.

Felly, Duwioldeb, mae gen i rwan
Ryw chwant ac ’wyllys i roi tro tuag allan.

Duwi. Cerddwch, a rhoddwch dro drwy gred,
Cofiwch eich adduned cyfan.

Meddyliwch wrth rodio draw ac yma
Ym mhlith eich pwer mai Duw a’i pia;
Gwyliwch roi’ch calon i garu’ch golud.
Rhag ofn i chwi golli ffordd y bywyd.
[Diflanna Arthur.

Yn ddrych i bechaduried byd
Cadd hwn ei adel am ryw hyd;
Yn awr mi ganaf bennill dygyn,
I hynod ystyr hyn o destyn, -

Contents:

Related Resources

None available for this document.

Download Options


Title: The Works of Twm O’r Nant— Volume 2

Select an option:

*Note: A download may not start for up to 60 seconds.

Email Options


Title: The Works of Twm O’r Nant— Volume 2

Select an option:

Email addres:

*Note: It may take up to 60 seconds for for the email to be generated.

Chicago: Twm o'r Nant, "(Alaw— Spanish Haven.)," The Works of Twm O’r Nant— Volume 2 in The Works of Twm O’r Nant—Volume 2 Original Sources, accessed December 4, 2023, http://www.originalsources.com/Document.aspx?DocID=4YDUGYYXGMCLLYJ.

MLA: Twm o'r Nant. "(Alaw— "Spanish Haven.")." The Works of Twm O’r Nant— Volume 2, in The Works of Twm O’r Nant—Volume 2, Original Sources. 4 Dec. 2023. http://www.originalsources.com/Document.aspx?DocID=4YDUGYYXGMCLLYJ.

Harvard: Twm o'r Nant, '(Alaw— "Spanish Haven.")' in The Works of Twm O’r Nant— Volume 2. cited in , The Works of Twm O’r Nant—Volume 2. Original Sources, retrieved 4 December 2023, from http://www.originalsources.com/Document.aspx?DocID=4YDUGYYXGMCLLYJ.