Gwyn, Gwyn Yw Mur.

Gwyn, gwyn yw mur y bwthyn ar y bryn,
O’i bared tyf rhosynau coch a gwyn;
Tu allan, hardd a pharadwysaidd yw -
Tu fewn mae’r ferch, fy nghariad wen, yn byw.