| 
						
					 | 
					
						
							
	
	
		
			Ceiriog
			
			 
			
	
				Contents: 
				
			
 
		 
		
		
	 
	
	
		
		XXVI.
    Aros mae ’r mynyddau mawr,    Rhuo trostynt mae y gwynt; Clywir eto gyda ’r wawr,    Gan bugeiliaid megis cynt. Eto tyfa ’r llygad dydd,    Ogylch traed y graig a’r bryn; Ond bugeiliaid newydd sydd    Ar yr hen fynyddoedd hyn. 
    Ar arferion Cymru gynt,    Newid ddaeth o rod i rod; Mae cenedlaeth wedi mynd,    A chenedlaeth wedi dod. Wedi oes dymestlog hir,    Alun Mabon mwy nid yw; Ond mae ’r heniaith yn y tir,    A’r alawon hen yn fyw. 
	 
	
	
		
			
	
				Contents: 
				
			
 
		 
		
	 
	
	
	
	
	
	
	
	
	
		
		
				
				
					
						
							
								Chicago: 
								Ceiriog Hughes, "XXVI.," Ceiriog in  Ceiriog Original Sources, accessed November 3, 2025, http://www.originalsources.com/Document.aspx?DocID=KR76898K791GAJE.
								
							 
							
								MLA: 
								Hughes, Ceiriog. "XXVI." Ceiriog, in  Ceiriog, Original Sources. 3 Nov. 2025. http://www.originalsources.com/Document.aspx?DocID=KR76898K791GAJE.
								
							 
							
								Harvard: 
								Hughes, C, 'XXVI.' in Ceiriog. cited in , Ceiriog. Original Sources, retrieved 3 November 2025, from http://www.originalsources.com/Document.aspx?DocID=KR76898K791GAJE.
								
							 
						 
					 
				 
				
			
	 
	
 
	
	
	
						
					 |