(Alaw—"Spain Wenddydd.")
"Wel, teimled a barned pob un,
’Rwy’n chwennych gwneyd heddwch cytun,
Pa fodd y gall hwsmon gael lles,
Er cymaint ei rinwedd a’i wres,
Beth fydd e’n nes wrth feddu’n wir
Anrhydedd teg o ffrwythau tir,
Onibae fod gwlad faith rad a thref
Yn treulio’i foddion unicn ef?
A pheth a wnai’r hwsmon dan ’rhod,
Heb frenin a byddin yn bod,
Dysgawdwyr a sawdwyr i’w swydd,
Rhag blinion elynion di lwydd?
Y rhei’ny’n rhwydd wnai aflwydd noeth,
Yn neutu’r byd a’u natur boeth,
Onibai penaethied nerthol glau,
Ni fydde un heddwch i’w fwynhau.
"A’r ustus, [w^]r trefnus bob tro,
Sydd berffeth a’i gyfreth i’w go’,
Yn taeru, ac yn rhannu ’mhob rhith,
Gyfiawnder, mewn plainder i’n plith:
Neu bydde melldith ym mhob man,
Lledrata a lladd trwy dref a llan,
Oni bai fod cyfraith araith wir,
Hi ai’n anrhaith hwyl ar for a thir.
"Mae pob galwedigeth ar dwyn,
Wedi’i threfnu a’i sefydllu’n bur fwyn
Fel cerrig mewn adail hwy wnan’,
Yn y murie rai mawrion a man,
Pob un yn lan a geidw le,
I glod a thrinieth gwlad a thre’,
Pob swydd, pob sail, pob dail, pob dyn
Sy’n dda’n ei hardd sefyllfa’i hun.
"Mae’r deyrnas mewn urddas a nerth,
Gwedi’i rhol fel un corff lanw certh,
Yn y pen y mae’r synwyr a’r pwyll,
A’r galon yw’r golwg ar dwyll;
Y pen yw canwyll, cynnydd maeth,
Aelodau’r corff a’u lediwr caeth,
Mae’r dwylo a’r traed mewn daliad drud,
A’r bysedd bach tan bwyse’r byd.
"Nid alliff, deallwch, un dyn,
Fyw’n gryno yma heno arno’i hun,
Rhai’n barchus, neu drefnus iawn draw,
Rhai’n weinied yslafied islaw,
Pob un a ddaw a’i ben i’r ddol,
Yn ol sefyllfa rhedfa rhol,
Fel cocys melin wedi rhoi
Rhwng ffyn y droell i’w phwnio i droi.
"Gan hynny ’rwy’n deisyf ar bob dyn,
Na ymffrostied yn ei alwad ei hun,
Ni ellir byw’n ddifyr ddi-wall
Mewn llwyddiant, y naill heb y llall;
Ow! barna’n gall, pwy bynnag wyd,
Fod rhaid i’r adar man gael bwyd,
Mae pob sefyllfa a’i gyrfa’n gaeth,
I ogoneddu’r Hwn a’i gwnaeth."
Arth. Wel, iechyd i’th goryn gwrol,
On’d oedd gennyt ti gerdd ryfeddol?
Ni wn i, pe buase hi yn ilawer lle,
Na wnaethe o’r gore yn garol.
Rhys. Wel, barned pawb o’r ddeutu,
Na chures i chwr ar ganu.
Arth. Ie, canmol dy waith wnei di yn dy w[y^]n
Nis gwn i fy hun mo hynny.
Rhys. Dyma at eich iechyd da chwi a minne,
Ni a yfwn gwrw, pwy bynnag oedd y gore.
Arth. Yn wir, mae arna i syched glan
Wrth wrando ar dy gan di gynne.
Rhys. Yfwch ddracht yn harti,
Hi wneiff i chwi ddinam dd’ioni.
Arth. Pe’r yfwn i gwrw cryf y King’s Head,
’Wnai damed o niwed imi.
Rhys. ’Wnai gwrw yn y byd i chwi mo’r meddwi,
A chwithe’n wr a chorff cry’ lysti.
Arth. Wel, ni phrisiwn i byth yma flewyn pen,
Pe gwariwn heb gynnen gini.
Rhys. Pam y rhaid i chwi mo’r hidio,
A chennych ar eich tyddyn gyment eiddo?
Arth. Oes, mae gen i stoc dda, ac aur yn fy nghod.
Moes i mi ddiod eto!
Och! Beth fyddis nes er rhyw ddyferyn,
Dewch a dau chwart ar unweth, ni phery hyn ronyn;
Beth, codi i dendio’r ydych chwi,
Mae Cadi neu Fari’r forwyn?
Gan ddarfod i mi fynd i’m hafieth,
Mi fynna’ wneyd yma ryw lywodreth,
Yr awr geir yn llawen, ’cheir mo honno’n brudd,
Mi fynnaf inne lawenydd unweth.
Beth glywes i ddweyd wrth gofio,
Ond fyddi di weithie yn dawnsio?
’Rwy’n ame dy weld gyda Neli’r Clos
Ryw gyda’r nos yn hasio.
A ga’i gennyt roi yma dro go fychan,
Mi a fum yn ddawnsiwr glew fy hunan,
Ond mae’r byd yma’n sobri dyn ym mhob swydd,
Fe ddarfu’r awydd rwan.
Rhys. Wel, i’ch plesio chwi, mi ddawnsia i ngore,
Tyred y cerddor, hwylia dithe.
Arth. O! iechyd i’r galon, dyna wych o step,
Ow! tewch a’ch clep, f’ eneidie.
Bendith dy fam i ti, ’r Cymro hoew,
Gwaed y garreg! hwde gwrw,
Ac yfa’r cwbwl, y Cymro cu,
Ran ’rwyt yn ei haeddu heddyw.
Rhys. Oni fydde’n ffeind i chwithe’n fwyngu,
Ddawnsio tro, a chwithe’n medru?
Arth. Yr ydw’i am dani hi yn union dul,
Dechreued e’n gynnil ganu.
Dewch a’r hors peip i’ch ewythr Arthur,
A pheidiwch a’i chware hi’n rhy brysur.
Rhys. Dyna i chwi ddyn, awch wydyn chwant,
Yn canlyn y tant yn gywir.
O! iechyd i galon yr hen geiliog,
Dyna step yn c’lymu’n gynddeiriog.
Arth. Ni chlywai’n iawn gan faint y swn,
Mo’r tanne gan y clepgwn tonnog.
* * *
Yn dangos ei fod yn feddw, yn cysgu, a thoc yn siarad drwy ei hun.
Rhys. Gorweddwch ar lawr y parlwr,
Dyna wely llawer oferwr.
Arth. Wel, cysgu yn y funud a wnaf fi,
Dondia nhw’i dewi a’u dwndwr.
Rhys. Ust! tewch, fy ’neidie, a nadu,
’Dewch lonydd i’r gwr gael cysgu;
O! na wrandewch beth ddwed e’, g[w^]yr dyn,
Mae fe’n siarad trwy’i hun, mi wn hynny.
Wel, ni weles i erioed, mi allaf dyngu,
Un mor afreolus yn ei wely.
Arth. Hai, Robin, dilyn y da yn glos,
Dacw’r eidion yn mynd dros yr adwy.
Rhys. Wel, gan fod yr hen froliwr mor anodd ei riwlio,
Mi a’i gadawaf ar gyfer, boed rhyngddynt ag efo,
Ac a ddiangaf yn siwr heb dalu dim siot,
Fe geiff yr hen got ymgytio.
[Diflanna Rhys.
Arth. Wel, mae gen i feddwl, os byw fydda’,
Ddygyd caue Sion Ty Nesa’;
Mi gaf yno ddigonedd o frig [y^]d,
Fe eiff y farchnad yn ddrud, mi wranta.
Mi gadwa’r ddas lafur hyd Wyl Ifan
Heb ei thorri, mae hi’n gryn werth arian,
Ac mae llofft yr [y^]d cyn llawned a dalio;
I ddiawl, oni chasgla’i gan’punt eto.
Holo! gwaed canmil o gythreulied,
Dacw ddrws yr ysgubor yn llydan agored,
A’r moch a’r gwydde’n y llafur glan,
Hai, soch, hwy lyncan sached,
Gaenor, Cadi, Susan,
Dyma helynt hyllig, ceisiwch ddod allan.
[Ymddengys Tafarnwr.
Taf. Hold, ’rhoswch, peidiwch a thorri’r bwrdd,
Ydych yn chwenych mynd i ffwrdd ttw’ch hunan?
Arth. O! bendith fy mam am fy stopio’i dipyn,
Yr oeddwn i wedi gwylltio’n erwin.
Taf. Yr oeddych yu llywio’n ddrwg eich llun,
Ac yn siarad trwy’ch hun er’s meityn;
Fe ddarfu i chwi daflu a thorri cadeirie,
Dowch, ceisiwch hwylio i gychwyn adre.
Arth. O, dweyd y gwir i ti sy’n ffrynd,
Mae bwriad gen i fynd y bore.
Taf. Cawsoch bymtheg chwart yn gyson
O gwrw, mae hynny’u goron,
A’ch bwyd hefyd yn costio swllt,
Dyna chwe’ swllt yn union.
Talwch y siot heb hir ymdaeru.
Arth. Aroswch, gadewch imi edrych o’m deutu:
Mae’r dyn oedd gyda fi yn hyn o le?
Bydde yn deilwng iddo ynte dalu.
Taf. Os daftu hwnnw ddiauc allan,
Y chwi geiff ateb am y cyfan.
Arth. Dyna esiampl i bawb lle bynnag y bo,
I edrych ato’i hunan.
Taf. Dewch, oni thelwch chwi yn y funud,
Cewch dalu rhagor ar fyrr ennyd.
’Da’i ddim i ddadle a chwychwi,
Ond diolch i chwi am eich coegni.
[Diflanna Tafarnwr.
Arth. Diolch i tithe, chwilgi tost,
Am fwgwth cost mor wisgi.
Nage, glywsoch chwi, bobl glysion,
Goeced oedd yr hangmon:
Mi glywswn arnaf, pan oedd e’n flin,
Roi cic yn ei din e, ’r dynion.
A welwch chwi, dyma’r peth geiff dyn truan,
Ar ol colli’i gof, a gwario’i arian;
Tafod drwg, a’i alw’n fochyn bo lol,
A’i bacio’n hollol allan.
A phe gyrrwn y wraig neu rywun o’m cartre
I geisio llwyed o’u burum hwy fory’r bore;
Er maint a waries yma’n llym,
Ni chawn i ddim heb ddime.
Ac a weriwch chwi, ffylied garw,
Eich arian i garpie chwerw?
Bydde’n well gennyf o syched farw’n syth,
Nag y carwn i byth mo’u cwrw.
O! yr oedd diawl i’m dilyn,
Aros yma i hurtio ’nghoryn,
’Ngholledu fy hun, a gwneud niwed caeth,
A ’muchedd yn waeth na mochyn.
Nis gwn i pa sut yr a’i adre,
Gan g’wilydd liw dydd gole;
Mae’r wraig er’s meityn, wrantaf fi,
Yn rhyw gyrion yn rhegu’i gore.
[Diflanna Arthur.
Ymddengys Rhywun.
Rhywun. Dyma finne, Rhywun, mawr ei drueni,
’Does neb yn cael mwy cam na myfi;
’Rwy’n gysgod esgus celwydd llydan,
Fwy o’r hanner na’r diawl ei hunan.
Ar ol i rai wneuthur clwt o stori,
A chodi rhwng cymdogion ddrwg aneiri,
Ni bydd gan gelwyddwr ddim i’w wneyd
Ond rhuo mai Rhywun a glywodd e’n dweyd.
Ac weithie geilw rhai fi’n fran,
Ac a godant yn fy nghysgod gelwydd glan,
Fe dyngiff y llall ynte’r mawr lw,
Mi glywes rywbeth gyda Nhw.
Ac felly’n gysgod celwydde coegfall,
Y Nhw fyddai weithie, Bran waith arall,
Weithie’n Hen-wr gan bawb ohonyn,
Gwaetha rhuad, ac weithie Rhywun.
Ac nid yw’r henwe hyn i gyd,
Ond esgus celwydd ’rhyd y byd,
Abwyd cnawdol am fach Satan,
I safio’r drwg i amlygu ei hunan.
O, chwi wragedd y te a’r ffortun,
Nid oes ond y celwydd yn eich canlyn;
Ow! beth a wneir, pan ddel mewn pwyll
I’r gwyneb y twyll a’r gwenwyn?
A gwragedd y piseri sy’n rhai o’r siwra,
A’r gof a’r melinydd ddylase fod ymlaena,
A’r holl bobl gerdded sy’u dwad gerllaw,
Drwy gamwedd draw ac yma.
A’r gweinidogion ffals eu dygied
Fydd yn achwyn chwedle i’w meistried,
A’r holl rodreswyr fydd yn dwad ar dro,
I ofalus weneithio am folied.
Ac felly trwy’ch cennad, y gynlleidfa,
Os rhynga’ch bodd i wrando arna’,
Mi ganaf gerdd i ddeisyt yn ddygyn
Na roddoch ormod ar gefn Rhywun, -