Tyddewi
"Cystal am ofal im yw
Fyned deirgwaith i Fynyw,
A myned, cynired cain,
Ar hafoed hyd yn Rhufain."
IOLO GOCH.
Yr oedd wedi taro chwech o’r gloch y bore er ys pymtheng munud neu well pan garlamai ein merlen hoew drwy heol hen Hwlffordd, gan deimlo nad oedd mwy o bwysau yn ein cerbyd ysgafn na phe buasai ddim ond bwcwl addurnedig i gadw’r awenau yn eu lle. Naw o’r gloch y noson cynt, yr oeddwn wedi gadael Llundain a’i chyffro, gan ddisgwyl gweled y bore’n torri ar fynyddoedd Cymru, a chan wybod fod rhyw dawelwch yn gorffwys ar y mynyddoedd hynny, tawelwch iachaol,
heddwch a sudda fel balm i enaid y neb a hir edrycho arnynt.
Heddwch y mynyddoedd,—dyna feddyginiaeth meddwl pryderus, a dyna adnewydda y corff curiedig fel yr eryr. Aml y teithia enaid Cymro i fynyddoedd ei wlad.
Ar hyd y daith nos bum yn breuddwydio’n anesmwyth yn y tren.
Breuddwydiwn ein bod yn chwyrnellu drwy ddinasoedd distaw anghyfannedd,—yr oedd Caerloew wedi ei hanrheithio gan bla, a’r glaswellt yn tyfu ar hyd ei hystrydoedd; yr oedd Casnewydd dan y mor, a dim ond rhyw drumau aur, fel crib, yn codi o’r tonnau oer brigwynion; yr oedd adfeilion anferth Caer Dydd yn goedwig o eiddew a mieri, a’r mor wedi cilio oddiwrth ei glan. Ond yr oedd edyn aur y bore ar Lyn Nedd ac ar fau Abertawe, er mai prin y medrai’r dydd fy argyhoeddi nad anialwch du oeddwn wedi adael ar fy ol. O wlad y nos i wlad y bore yr oedd fy nhaith.
Nid oedd gennyf ond dwy noswaith a diwrnod i mi fy hun. Rhaid oedd treulio’r ddwy noswaith yn y tren, a mwyn oedd meddwl y cawn dreulio’r diwrnod yn Nyfed, a mynd ar bererindod i Dyddewi. Bu pererinion dirifedi’n cyrchu ar hyd y ffordd hon, yn hen oesoedd cred, tua Thyddewi; oherwydd yr oedd mynd yno deirwaith mor haeddiannol a phe’r eid dros dir a mor i Rufain ei hun,—ceid yr un gollyngdod am bechod, yr un iechyd corff, yr un heddwch meddwl. Ac i’r neb deithiodd Ddyfed hyd Dyddewi yn nyddiau cynnes hirion esmwyth yr haf, nid anhygoel yw’r traddodiad nad oes afiechyd na gwenwyn na phechod yn trigo yn naear sanctaidd Dewi.
Gwell i mi gyfaddef ar unwaith mai nid marweiddio’r cnawd oedd amcan fy mhererindod, onide buaswn wedi mynd yn y gauaf, a buaswn wedi cerdded dros yr holl fryniau tonnog sy’n ymestyn rhwng Hwlffordd a
Thyddewi. Yr oeddwn wedi deall y byddai un o geffylau goreu’r wlad,
ac un o’r gyrrwyr goreu, yn fy aros yng ngorsaf Hwlffordd. Bu’n edifar gennyf droion yn ystod y dydd na fuaswn wedi cerdded; ond, o ran hynny, gorfod i mi gerdded llawer, ac nid o’m bodd.
A dyma ni’n carlamu drwy stryd Hwlffordd. Mor hyfryd ydyw’r cerbyd ysgafn ar ol y tren trwm, ac mor iach ydyw awel y bore dros y bryniau gleision acw. Y union o’n blaenau ymgyfyd castell
Hwlffordd, gan wgu i lawr arnom, ac ar yr hen dref ddyddorol yr ydym yn cyflymu drwyddi. Toisom ar y dde wrth droed craig y castell, ac aethom drwy ystryd gul ar garlam wyllt, er perygl nid ychydig i’r plant troednoeth coesnoeth oedd yn ymhyfrydu yn y dwr ac yn y llaid sydd ar hyd ochrau ac ar ganol y Stryd Dywell. Dywedai’r gyrrwr mai ym Mhenfro Seisnig y mae Hwlffordd, ac na siaredir gair o Gymraeg ynddi. Gwelwn yn amlwg oddiwrth enwau’r siopwyr fod llawer cenedl yn trigo yn y dref. Bleddyn Gymreig mewn heddwch a Havard
Normanaidd.
Sais oedd y gyrrwr, a charn Sais. Ni wyddai ddim am Arthur, ni chlywodd son am William Havard, ni wyddai ddim am hanes y dref. Sur ac anfoddog oedd ei drem, ac nid oedd ei iaith mor goeth ag iaith ambell un, oherwydd yr oedd yn rhy hoff o son am drigolion y tywyllwch wrth eu henwau, a mynych gyfeiriad a wnai at ei enaid byw.
Ceffylau, cwn, a da pluog oedd hoff destyn ei ymddiddanion; ond am gyfarfodydd pregethu, neu ysgolion y fro, neu ei cholegau, gwyddai lai na dim. Yr oedd ganddo ddaliadau gwleidyddol, ac nid oedd arno gywilydd eu harddel. Yr oedd yn ddyn gonest, yn eithaf caredig, ac yn barod iawn i dystio mai gwir bob gair oedd yr holl ystraeon adroddai.
Dyma ni ar ben y rhiw cyntaf, a gwlad Dyfed hen wlad yr Hud, gwlad chwedl am bagan a sant, yn ymestyn o’n blaenau. Golwg oer a thrist sydd arni, gwlad o fryniau penisel, yn ymestyn fel tonnau tua gorwel y gorllewin, heb for yn y golwg, heb fynydd. Ffermwyr, moch,
gwyddau, peiriannau lladd gwair,—edrychent am y pruddaf. A thraw,
yn hanner cylch o’n blaenau, yr oedd cymylau gwgus yn llawn o wlaw oer. Ceisiai’r gyrrwr fod yn llawen, ond yr oedd amheuaeth yn ei lais wrth iddo ddweyd,—"Cloudy mornin’, fine day, sir." Gyda hynny disgynnodd y gwlaw arnom fel pe’i tywelltid o grwc, a chlywn y defnynnau’n rhedeg i lawr rhwng fy nghrys a’m croen. Anodd canu yn y gwlaw, ac eithaf digalon oeddwn innau. Treiai’r gyrrwr fy nghysuro, a thynnu fy sylw at rywbeth oddiwrth fy sefyllfa anghysurus ac anwydog. Danghosodd ddyffryn bychan i mi, a dywedodd gyda blas ei fod yn lle ardderchog am lwynogod a dyfrgwn. Dywedais innau nad oeddwn yn cymeryd y dyddordeb lleiaf mewn llwynogod na dyfrgwn; ac nad oedd dim casach gennyf na chwn hela, ond y bobl fydd yn eu dilyn. Daethom at afonig fechan dryloew, oedd yn rhedeg drog raian glan, dan lwyni o frwyn a llysiau’r gwenyn; ac wrth fy ngweled yn edrych ar y blodau, dywedodd y gyrrwr fod y nant yn lle ardderchog i bysgota brithylliaid, a gofynnodd i mi a oeddwn yn ddaliwr da. Dywedais fy mod wedi dal un brithyll unwaith, a fod yn edifar gennyf byth; ond ni fedrai ddeall hynny. Yr oedd y gwlaw yn dal i ddisgyn, a’m calon innau’n drom. A dechreuodd y gyrrwr ganu,
gan wneyd pob swn rhwng swn hogi llif a swn melin goffi. Gofynnodd i mi toc a oeddwn yn hoffi canu, a dywedais innau nad oeddwn wedi clywed canu er ys rai dyddiau. Yr oeddwn yn ddrwg fy hwyl, ac ni phetrusodd y gyrrwr ddweyd gan ba fod y blinid fi.
Ond, gyda hynny, peidiodd y gwlaw, a gwenodd yr haul ar Ddyfed.
Siriolodd y ffurfafen, a gwenodd Dyfed arni drwy ei dagrau. Y mae gwen yn disgyn ar rudd brenhines y weirglodd, dacw fynyddoedd a chastell a’r mor, a gallasech glywed dau wlyb yn bloeddio canu dros yr holl wlad. "Dydech chi ddim llawer o ganwr," ebai’r gyrrwr, ar ddiwedd y gan. "Nag wyf," ebe finnau, "nid ydych chwithau ddim chwaith, y mae fy llais i wedi ei golli o hir ddistawrwydd, a’ch llais chwithau wedi ei andwyo gan ormod siarad."
Castell Roche oedd y castell a welem. Un twr sydd o hono, a saif hwn ar drwyn craig sy’n ymwthio i fyny drwy’r garreg galchaidd.
Gellir ei weled o bell o bob ochr; y mae’n ddu ac uchel a balch fel gorthrwm, yn gwgu ar holl ddyffrynoedd y wlad hon. Wedi i ni ei adael dywedai’r gyrrwr ein bod yn nesu at y terfyn rhwng Dyfed y
Saeson a Dyfed y Cymry, a chefais dipyn o hanes y ddwy genedl ganddo. Nid oedd gwleidyddiaeth Cymry Penfro wrth ei fodd, a gyrrai’n enbyd ar y personiaid am na ddysgent well credo iddynt.
Ond dywedai eu bod yn gynnil, yn llwyddiannus, ac yn bobl iach a chryf. Ond anffawd fawr oedd eu bod yn siarad Cymraeg, ac yntau’n deall yr un gair.
Tra’r oedd y gyrrwr yn traethu ei ddoethineb fel hyn, yr oedd golygfa ogoneddus o’n blaenau,—creigiau’n taflu allan o’r ddaear ar y dde i ni, a chastell Roche o hyd; a’r mor, gyda’i benrhynnoedd a’i ynysoedd, ar ein chwith ac o’n blaenau. Cyn hir, disgynasom ar hyd y rhiw at dafarn Niwgel. Y mae hon ar lan y mor; ac yn union ar y terfyn, fe ddywedir, rhwng y wlad Gymraeg a’r wlad Saesneg. Yr oeddym ninnau yma ar hanner ein ffordd, ac yr oedd yn rhaid i’r ferlen a’r gyrrwr wrth lymaid. Y mae’r dafarn mewn lle unig, mewn pantle ar y lan, ac ymron yn anhygyrch yn y gauaf, gallwn feddwl.
Ond y mae llawer o gyrchu yno yn yr haf. Pe buaswn yno drannoeth,
buaswn yno ar y dydd dawnsio, sef dydd Iau. Y mae traeth o dywod melyn caled gerllaw’r dafarn, a chyrcha bechgyn a genethod yr ardaloedd cylchynol yno ar nawniau Iau i ddawnsio, a daw lluoedd mewn cychod o’r lan gyferbyn i’w cyfarfod.
Wrth i mi ddringo ar hyd y ffordd serth ar ol y ferlen o bantle’r dafarn, gwelwn y traeth prydferth, ac ni welais erioed gymaint cynulleidfa o wylanod y mor a’r dyrfa o honynt oedd yn edrych yn astud ar y llanw’n mynd allan. O hyn i Dyddewi yr oedd y wlad yn dlysach a’r bobl yn fwy dyddorol. Ochrau rhedynog oedd yno, a gwartheg duon,—yn codi hiraeth am y llefrith melus hwnnw na cheir ond gan wartheg sy’n pori ochrau mynyddoedd. Brethyn cartref oedd gwisg y bobl, neu rywbeth ar ei lun,—brethyn da, ffedog stwff, a bectwn yspotiog. Holent fi’n awchus, a methent wybod oddiwrth fy iaith o ba ran o Gymru y deuwn. Gwahoddent fi’n groesawus i’w tai,
ond yr oedd yn rhaid i mi gyfeirio eu sylw at y gyrrwr a’i geffyl yn llafurus ddringo’r gorifyny o’m blaen, ac ymron cyrraedd pen y rhiw.
Byddai raid i minnau redeg, braidd cyn dechreu’r ymddiddan, i ddal y cerbyd ac i neidio iddo, a rhedai’r ferlen yn chwim, a’i mwng yn yr awel, hyd nes y deuem at riw drachefn.
Pan ddisgynasom i Solfach, unig sylw’r gyrrwr am y bobl oedd,—
"awful radicals." Hafan fach ddymunol sydd yma, ac y mae gwedd gyfoethog a llewyrchus ar bob peth. Tra’r oedd y gyrrwr a’i ferlen yn goblygu i fyny’r rhiw, cefais amser i ysgwrsio a’r fforddolion ddigwyddent fy nghyfarfod. Hoffwn eu Cymraeg yn fawr, yr oedd mor syml a melodaidd; ac yr oedd rhyw ledneisrwydd boneddigaidd ynddynt yn gymysg ag awydd aniwall i siarad.
Ond y mae ein gwynebau ar Dyddewi o’r diwedd. Nid oes bosibl peidio cofio ei hen enw wrth edrych arni,—"Gwlad yr Hud." Y niwl teneu,
pellder diderfyn y mor, y creigiau ysgythrog acw,—dyma deilwng gartref i ddefodau erchyll rhyw hen grefydd baganaidd, dyma wlad yr hoffai ysbryd aflonydd rhyw hen forleidr crwydrol aros am ennyd ynddi, ar ryw benrhyn neu ynys sydd eto’n dwyn ei enw. Gwlad hyd a lledrith ydyw, wedi ei gwneyd gan Ddewi yn wlad goleuni’r efengyl.
Ond y mae ei swyn a’i phrydferthwch fel erioed.
Arhosodd y cerbyd yng nghanol Tyddewi, a disgynnais i westy cysurus a phrydferth. Wedi cael tamaid,—yr oedd erbyn hyn rhwng naw a deg o’r gloch y boreu,—cerddais ymlaen i gyfeiriad yr eglwys gadeiriol.
Ni welir hi nes dod i’w hymyl, oherwydd mewn pantle y mae. Yna ymegyr ei hardderchowgrwydd o flaen y llygaid synedig. Er fod ol adgyweirio arni, meddyliwn am anialwch mawreddog a phrydferth. Yr oedd rhyw geinder a heddwch rhyfedd wedi gorffwys ar yr hen fangre hanesiol anwyl. Draw heibio’r eglwys y mae palas yr esgob yn adfeilion. Ond na feddylier ei fod yn hagr, er ei fod yn adfeiliedig. Y mae llaw amser wedi rhoddi prydferthwch digymar arno. Y ffenestr gron, y muriau hirion, y llwydni henafol, y wisg iorwg,—ym mha le y ceir adfeilion mor gain mewn glyn mor brydferth?
Rhed aber dryloew o adfeilion y palas, neu o ryw ffynnon rinweddol sydd ynddynt, ac ymdroella dan furmur, fel genethig yn mynd adre o’r capel, drwy’r dyffryn bach tlws tua’r mor. Nid rhosynau na blodau gardd sy’n tyfu yno, ond blodau gwylltion Cymru,—llysiau’r mel a chwilys yr eithin, blodau’r grug a hesg, eithin a rhedyn Mair. Ac y mae’r dyffryn yn ddarlun o brydferthwch a sirioldeb iechyd. A
meddyliwn y gellid ddweyd am y blodau eiriau Iolo Goch am offeiriaid
Dewi, -
"Engylion nef yng nglan nant."
Yn y pantle hwn, hwyrach, y cododd Dewi Sant ei babell pan ddaeth yn genhadwr i bregethu’r efengyl i baganiaid Dyfed. Ar lan yr aber dlos dryloew, sy’n murmur mor ddedwydd ag erioed drwy’r adfeilion, y bu Dewi’n cydweddio a’i ddisgyblion am i Grist gael holl Gymru’n eiddo iddo. Ac ychydig feddyliai’r sant yr adeg honno, y mae’n bur sicr, y doi brenhinoedd ar bererindod at ei fedd ac yr edrychid arno fel archesgob holl Gymru. Bum neu chwe chan mlynedd ar ol ei farw,
pan oedd ffarf yr eglwys Cristionogol yng Nghymru wedi newid yn ddirfawr, ceisiodd Gerald Gymro brofi fod Eglwys Cymru wedi bod yn un, ac yn anibynnol ar Eglwys Loegr, dan archesgob Tyddewi, olynydd
Dewi Sant; a hir y brwydrodd i ailennill i Eglwys Cymru ei hanibyniaeth hwn. Wedi darostwng esgobaethau Cymru dan lywodraeth archesgob Seisnig, ac wedi darostwng Cymru i frenin y Saeson, aeth
Tyddewi yn anwylach i’r Cymry o hyd. Pan gododd Glyn Dwr ei faner,
yr oedd yn meddwl am wneyd Tyddewi yn archesgobaeth Cymru, a phrydferth iawn yw darluniad ei fardd Iolo Goch o’r fangre hyfryd.
Lecyn prydferth a thawel, y mae gwyr goreu Cymru wedi bod yn hiraethu am yr iechyd a’r tawelwch geir ynnot. Ynnot ti y gorwedd
Dewi Sant a Gerald Gymro a William Morris. A dyma finnau bererin wedi cael edrych ar dy degwch, ar dy draeth euraidd ar dy ffynnon loew, ac ar dy flodau gwylltion.